GNOME 2.12 - Nodiadau'r Fersiwn

1. Beth sy'n Newydd i Ddefnyddwyr

1.1. Penbwrdd

1.1.1. Golwg a Theimlad

Mae GNOME 2.12 yn cyflwyno thema safonol newydd, o'r enw "Golwg Glir", sy'n gwneud eich penbwrdd yn fwy deiniadol, tra'n parhau i fod yn syml a chymen.

Ffigwr 1Deiniadol, cyfeillgar, syml: y thema ragosodedig newydd.

1.1.2. Y Trefnydd Ffeiliau

Mae gan y trefnydd ffeiliau, o'r enw Nautilus, nifer o welliannau i'w ryngwyneb defnyddwyr yn GNOME 2.12. Yn fwyaf amlwg, gall yr olwg rhestr yn awr ddangos ffeiliau o fewn plygellau, sy'n golygu y gallwch chi lywio i lawr i is-blygell ac agor ffenestr plygell newydd ddim ond pan mae'n angenrheidiol. Hefyd er eich hwylustod, mae'r ddewislen Llyfrnodau nawr yn dangos yr un lleoliadau â'r ddeialog Dewis Ffeiliau.

O fewn GNOME 2.12, mae'ch amser yn cael ei arbed - wrth lusgo testun o raglen i ffenest plygell, bydd dogfen destun newydd yn cael ei greu'n awtomatig. Fe sylwch hefyd fod GNOME erbyn hyn yn dangos rhagflas o'r testun sy'n cael ei lusgo, yn hytrach na dim ond eicon.

Ffigwr 2Yn syml, yn lân ac yn bwerus: y trefnydd ffeiliau Nautilus

Mae yna welliannau sylweddol hefyd i'r modd pori, sy'n ei wneud yn debyg i'r deialog Dewisydd Ffeil GNOME sydd eisoes yn bodoli. Dyma'r gwelliannau:

  • Gellir dangos Lleoedd a Llyfnodau o fewn cwarel ochr.
  • Yn awr, dangosir y lleoliad ar far lleoliad GNOME yn hytrach na chofnod testun. Mae'r llwybr testun ar gael o hyd drwy'r brys-lwybr bysellfwrdd Control-L.

Gall nodwedd hwylus GNOME i losgi CDs gopïo CDs sain yn awr, yn ogystal â CDs data. Rhowch glic de ar y CD ar ôl ei roi i mewn.

1.1.3. Clipfwrdd

Mae GNOME yn awr yn cofio data yr ydych chi'n ei gopïo, hyd yn oed pan ydych chi'n cau'r ffenestr y copïwyd y data oddi wrtho. Mae'r broblem yma wedi ei datrys o'r diwedd, gan adael i raglenni geisio'r nodwedd hon yn eglur. Mae hyn yn osgoi'r gostyngiadau mewn cyflymder geir o ddefnyddio ellyll clipfwrdd.

1.1.4. Y Panel

Mae'r panel, y gwelwch chi fel arfer ar ben neu waelod y sgrin, yn gadael i chi gychwyn rhaglenni a rheoli gwahanol agweddau'ch amgylchedd. Yn GNOME 2.12 mae paneli fertigol gyda dewislenni yn bosib, diolch i'r dewislenni sydd wedi'u cylchdroi.

Hwyrach y gwnewch chi sylwi hefyd fod rhaglenni'n gallu fflachio'u henwau o fewn y Rhestr Ffenestri, i ddangos eu bod nhw'n barod. Er enghraifft, gall rhaglen negesu chwim fflachio'i heicon pan fo ffrind yn anfon neges.

Ffigwr 3Y Panel GNOME

1.2. Rhaglenni

1.2.1. Chwaraeydd Fideo

Mae chwaraeydd fideo GNOME, sef "Totem", yn defnyddio fframwaith amlgyfrwng GNOME - GStreamer. O fewn GNOME 2.12, mae gan y chwaraeydd fideo far ochr ar gyfer y rhestr chwarae yn hytrach na ffenestr ar wahân, ac mae hefyd yn cynnal dewislenni ac isdeitlau DVD.

Ffigwr 4Y chwaraeydd fideo

1.2.2. Rhwygo CDs

Mae rhwygydd CDs GNOME yn tynnu'r gerddoriaeth sydd ar CDs er mwyn ei chwarae'n hwyrach ar eich cyfrifiadur, neu'ch chwaraeydd cerddoriaeth cludadwy. Ac yn awr, gallwch chwarae traciau cyn eu tynnu. Gall y fersiwn ddiweddaraf hon hefyd dynnu ffeiliau i weinyddion sydd wedi eu rhwydweithio, neu ddyfeisiau a ellir eu tynnu, gan ddefnyddio system VFS GNOME.

Ffigwr 5Y tynnwr sain

1.2.3. Porwr Gwe

Mae porwr gwe GNOME, sef "Epiphany", wedi ei seilio ar Mozilla, ac eto mae'n cyfuno'n llawn ag amgylchedd penbwrdd GNOME. Mae'r gwelliannau yn 2.12 yn cynnwys

  • Bar Canfod, fel gwelir o fewn Firefox, oedd ar gael ynghynt fel estyniad i Epiphany. Mae hyn yn gadael i chi ddod o hyd i destun o fewn y dudalen, heb guddio'r dudalen tu ôl i ffenestr ddeialog.
  • Negeseuon gwall haws eu deall, wedi eu dangos yn uniongyrchol o fewn y porwr.
  • Defnydd system argraffu safonol GNOME.
  • Gellir rhannu llyfrnodau'n hawdd dros y rhwydwaith.

Ffigwr 6Y porwr gwe

1.2.4. Evolution

Mae cleient integredig e-bost a grŵpwaith GNOME, Evolution, yn cynnal pob math o systemau e-bost: rhai 'traddodiadol' yn ogystal â Novell Groupwise a Microsoft Exchange. Gyda Evolution gallwch ddarllen, ysgrifennu a rheoli'ch e-bost, eich cyfeiriadau a'ch cysylltiadau, a'ch calendr.

Mae gan Evolution yn GNOME 2.12 drefniant dewislenni sy'n haws ei ddefnyddio, a bar atodiadau wedi ei wella. Mae amgryptio PGP a llofnodion PGP wedi ei gynnal yn fewnol. Yn ogystal, mae'r calendr yn gadael i chi anfon dirprwy at eich cyfarfodydd.

Cynhelir cyfrifon IMAP a rhai dirprwy Groupwise erbyn hyn, ac mae rhai problemau cyd-weithio â Mozilla Thunderbird drwy IMAP wedi eu datrys.

Ffigwr 7Y cleient e-bost

1.3. Canolfan Reoli

1.3.1. Amdanaf I

Mae gan GNOME nawr banel rheoli newydd, "Amdanaf I", lle gallwch chi roi'ch manylion personol, fel eich rhif ffôn, cyfeiriad post, cyfeiriad e-bost, ac enwau cyfrifon negesu chwim. Mae hyn yn eich arbed rhag ail-adrodd y wybodaeth o fewn rhaglenni gwahanol. Gallwch hefyd newid eich cyfrinair yn y fan yna.

Ffigwr 8Amdanaf I

1.3.2. Hoffterau Llygoden

Mae'r panel rheoli Hoffterau Llygoden nawr yn gadael i chi newid eich thema cyrchwr.

Ffigwr 9Hoffterau Llygoden

1.4. Cyfleusterau

Mae gan gyfleusterau GNOME rhai gwelliannau, er enghraifft:

1.4.1. Gwelydd Dogfennau

Mae gan GNOME 2.12 welydd dogfennau newydd, o'r enw "Evince", i gymryd lle'r gwelyddion dogfennau PDF a .ps oedd ar wahân. Mae'r gwelydd newydd yn symlach ac yn fwy hwylus, gyda nodwedd chwilio gyfleus a'r gallu i ddangos sawl tudalen ar yr un pryd.

Ffigwr 10Gwelydd Dogfennau

1.4.2. Gwelydd Delweddau

Gall gwelydd delweddau GNOME yn awr ddangos delweddau â'u lliw wedi cywiro, gan ddefnyddio proffiliau ICC.

Ffigwr 11Gwelydd Delweddau

1.4.3. Gwelydd Cymorth

Mae gwelydd cymorth GNOME, sef Yelp, nawr yn defnyddio'r un peiriant â Epiphany, y porwr gwe. Mae golwg, teimlad, cyflymder a sefydlogrwydd Yelp wedi gwella'n helaeth.

Mae gan Yelp gynhaliaeth well am fformatio penodol i'r locale. Mae hyn yn gadael i ddogfennaeth gael ei rendro gyda rheolau fformatio sy'n benodol i ieithoedd arbennig. Mae hon yn ategu'n wych y system newydd o gyfieithu dogfennau, sy'n gadael i ddogfennau gael eu cyfieithu cyn hawsed â rhaglenni.

Ffigwr 12Gwelydd Cymorth

1.4.4. Chwilio

Mae arf chwilio GNOME yn awr yn dangos mân-luniau delweddau, yn hytrach nag eiconau cyffredinol.

Ffigwr 13Chwilio

1.4.5. Geiriadur

Mae gan Eiriadur GNOME ryngwyneb defnyddiwr symlach, ac yn dangos y cofnodion mewn ffordd haws eu darllen. Gallwch yn awr ddewis y ffontiau a ddefnyddir i ddangos cofnodion.

Ffigwr 14Geiriadur

1.5. Gemau

Mae gemau GNOME yn rhoi mwy o hwyl i mewn i'r penbwrdd. Mae'r gêm Ffrwydron wedi ei gwella yn GNOME 2.12 - er enghraifft, mae'r clic gyntaf yn sicr o glirio nifer ddefnyddiol o sgwariau fel nad oes rhaid i chi glicio gan groesi bysedd na fyddwch yn taro ffrwydryn. Yn ogystal, mae graffig ffrwydro yn cael ei ddangos wrth i chi daro ffrwydryn.

Ffigwr 15Ffrwydron

2. Beth sy'n Newydd i Weinyddwyr

Mae gan GNOME 2.12 nodweddion newydd i wneud bywyd gweinyddwyr systemau, gan gynnwys defnyddwyr sy'n gweinyddu eu cyfrifiaduron eu hunain, yn haws.

2.1. Gwelliannau ar gyfer Sabayon

Fel rhan o'r gwaith i gynnal y golygydd proffiliau defnyddwyr Sabayon, mae GNOME yn darllen ac yn cyffwrdd â llai o osodiadau wrth gychwyn. Mae hyn yn cyflymu GNOME rhyw ychydig, ac mae hefyd yn gwneud GNOME 2.12 yn haws i'w weinyddu nag erioed o'r blaen. Mae Sabayon, er nad yw'n rhan swyddogol o GNOME, yn gwneud gosod proffiliau defnyddwyr ar gyfer GNOME yn dasg hawdd iawn.

2.2. Golygydd Dewislenni

Mae dewislen Rhaglenni GNOME yn awr yn defnyddio safon dewislenni freedesktop, felly gellir gosod rhaglenni'n hawdd ba bynnag amgylchedd penbwrdd ddefnyddir. Mae gan GNOME 2.12 arf syml i olygu'r ddewislen, a gan fod yr isadeiledd yn un safonol, mae arfau mae eraill wedi eu creu yn dechrau ymddangos.

Ffigwr 16Y Golygydd Dewislenni

2.3. Arfau System

Mae'r arfau system yn gadael i chi osod cloc eich system a'ch cysylltiad rhwydwaith, yn ogystal â rheoli'r defnyddwyr a'r grwpiau ar eich system. Ar hyn o bryd, mae'r arfau system yn fwyaf addas ar gyfer cyfrifiaduron unigol, yn hytrach na rhwydweithiau mawr o gyfrifiaduron.

Mae GNOME 2.12 yn cynnig arf Gweinyddu Gwasanaethau newydd, i adael i chi ddewis pa wasanaethau sy'n cael eu cychwyn wrth i'r cyfrifiadur ddechrau.

Ffigwr 17Yr arf Gweinyddu Gwasanaethau

2.4. Gwelydd Logiau

Mae gwelydd logiau GNOME yn gwneud hi'n haws eu harchwilio, gan ddangos pob log mewn un ffenest â thabiau, a chan adael i chi bori'r logiau o fewn calendr. Mae'r llywiwr fersiynau newydd hefyd yn help wrth wylio logiau sydd yn yr archif.

Ffigwr 18Y Gwelydd Logiau

3. Beth sy'n Newydd i Ddatblygwyr

Mae Platfform Datblygu GNOME 2.12 yn cynnig sail gadarn i ddatblygwyr meddalwedd, ac i Benbwrdd GNOME ei hun. Mae GNOME 2.12 yn ychwanegu rhai gwelliannau i'r API a gwelliannau sy'n weladwy i'r defnyddiwr. Mae hefyd yn gytûn a fersiynau blaenorol, ac mae'r API yn sefydlog. Yn ogystal, mae'n ei wneud yn haws i redeg rhaglenni sy'n rhedeg ar Unix a Windows, a defnyddio safonau pwysig sy'n hwyluso rhyngweithio â phenbyrddau eraill.

3.1. Gwelliannau GTK+

O fewn GNOME 2.12, mae GTK+ 2.8 yn cynnig nodweddion newydd sy'n weladwy i'r defnyddiwr, er enghraifft

  • Mae GTK+ yn awr yn defnyddio Cairo, yr API llunio oddi wrth freedesktop, sy'n cynnig effeithiau newydd ac yn ei gwneud hi'n haws i luniadu teclynnau addasedig. Yn y dyfodol agos, dylai hyn alluogi GNOME i ddefnyddio effeithiau graffeg newydd a chymryd mantais o gyflymwyr caledwedd, yn ogystal â gwella'r APIs argraffu.
  • Mae cynhaliaeth llusgo-a-gollwng wedi ei wella, ac erbyn hyn mae'n cynnig rhagolwg o flociau testun wrth i chi eu llusgo.

Yn ogystal â'r newidiadau yma, y gall bob rhaglen seiliedig ar GTK eu defnyddio heb ail-grynhoi, mae nifer o APIs newydd wedi eu hychwanegu i wneud datblygiad hyd yn oed yn haws. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Gall GTKFileChooser yn awr ddangos deialog cadarnhau trosysgrifo ffeil wrth ei chadw.
  • Gall GtkWindow awgrymu pwysigrwydd, gan gyfarwyddo'r rheolwr ffenestri i fflachio teitl y ffenestr, er enghraifft.
  • Mae GtkIconView yn awr yn rhoi'r rhyngwyneb GtkLayout ar waith, a gall rendro eitemau drwy GtkCellRendererCells.
  • Mae GtkTextView yn awr yn gadael i chi osod lliw cefndir paragraffau, a gallwch hepgor testun anweledig wrth ailadrodd.
  • Mae gan GtkScrolledWindow ffwythiannau i gael gafael ar y bariau sgrolio.
  • Mae GtkMenu yn cynnal dewislenni fertigol (wedi'u ham-droi), a gall anwybyddu ffocws y bysellfwrdd ar gyfer rhaglenni arbennig, fel y bysellfwrdd ar-y-sgrin.
  • Gall naidlen GtkEntryCompletion yn awr fod yn lletach na'r cofnod, a gellir hepgor y naidlen pan mai dim ond un eitem sy'n cydweddu.
  • Gellir amlapio testun trwydded GtkAboutDeialog erbyn hyn.
  • Gall GtkToolButton yn awr ddefnyddio eiconau penodol o themâu eicon, a gellir defnyddio'r eiconau yma hefyd wrth lusgo.
  • Gall GtkSizeGroup anwybyddu teclynnau cudd.

Gweler hefyd rhestr lawn yr APIs newydd o fewn GTK+ 2.8.

3.2. Traws-blatfform

Mae'r llyfrgell GTK+ eisoes yn boblogaidd ymysg datblygwyr sydd raid iddyn nhw gynnal aml blatfformau, gan gynnwys Windows yn ogystal â Linux ac Unix. Er enghraifft, gall dylunwyr olygu eu delweddau gan ddefnyddio GIMP ac Inkscape ar naill ai Linux neu Windows.

Ac yn awr mae llawer mwy o lyfrgelloedd GNOME, gan gynnwys ORBit2, libbonobo, libgnome, libbonoboui, libgnomeui a gnome-vfs, yn medru adeiladu ar Microsoft Windows, sy'n ei gwneud hi'n haws i adeiladu a dosbarthu rhaglenni GNOME ar y platfform yna. Er nad yw'r gynhaliaeth yn gyflawn eto, gall fod yn ddigonol i rai rhaglenni, a disgwylir bydd y gynhaliaeth yn gyflawn o fewn fersiynau nesaf GTK+ a GNOME.

3.3. Yn Unol â Safonau

Mae GNOME yn cydweithio'n agos â grwpiau fel freedesktop.org. Mae cynnal safonau o'r fath yn fantais fawr i ddatblygwyr a defnyddwyr GNOME. Mae'r gallu i gyd-ddefnyddio rhaglenni yn gwella profiad defnyddwyr gan adael i raglenni GNOME, KDE ac eraill gyd-weithio'n haws, ac mae dilyn safonau agored yn sicrhau nad yw data defnyddwyr wedi ei faglu o fewn fformatau cudd.

Mae datblygwyr GNOME yn gweithio'n galed, ar y cyd ag eraill drwy Freedesktop.org, er mwyn datblygu safonau ar gyfer rhyngweithio. Mae'r safonau'n cynnwys: cronfa MIME gyffredin, themâu eicon, ffeiliau diweddar, dewislenni, cofnodion penbwrdd, rheolaeth cipluniau, a'r system tray specifications. In addition, GNOME supports CORBA, XML, Xdnd, EWMH, XEMBED, XSETTINGS, and XSMP.

4. Rhyngwladoli

Diolch i aelodau rhyngwladol Prosiect Cyfieithu GNOME, o dan arweiniad Christian Rose a Danilo Šegan, caiff 43 iaith eu cynnal yn GNOME 2.12 (gyda dros 80% o'u llinynnau wedi'u cyfieithu).

Ieithoedd a gynhelir:

  • Albaneg (5 miliwn o siaradwyr)
  • Portiwgaleg Brasil (175 miliwn)
  • Bwlgareg (9 miliwn)
  • Catalan (7 miliwn)
  • Tsieinëeg Symleiddiedig (dros 1 biliwn)
  • Tsieinëeg Traddodiadol (40 miliwn)
  • Tsieceg (11 miliwn)
  • Daneg (5.3 miliwn)
  • Iseldireg (dros 21 miliwn)
  • Saesneg (341 miliwn)
  • Ffineg (dros 5 miliwn)
  • Ffrangeg (dros 75 miliwn)
  • Galiseg (3 miliwn)
  • Almaeneg (100 miliwn)
  • Groeg (15 miliwn)
  • Gujarati (46 miliwn)
  • Hindi (370 miliwn)
  • Hwngareg (14.5 miliwn)
  • Indoneseg (230 miliwn)
  • Eidaleg (60 miliwn)
  • Japaneaidd (dros 125 miliwn)
  • Corëeg (75 miliwn)
  • Lithwaneg (4 miliwn)
  • Macedoneg (2 filiwn)
  • Malay (dros 17 miliwn)
  • Nepali (16 miliwn)
  • Bokmal Norwyeg (5 miliwn)
  • Pwyleg (44 miliwn)
  • Portiwgaleg (43 miliwn)
  • Eidaleg (60 miliwn)
  • Rwmaneg (26 miliwn)
  • Rwsieg (170 miliwn)
  • Serbeg (10 miliwn)
  • Slovak (5 miliwn)
  • Sbaeneg (dros 350 miliwn)
  • Swedeg (9 miliwn)
  • Tamileg (61 miliwn)
  • Thai (20 miliwn)
  • Tyrceg (150 miliwn)
  • Wcraneg (50 miliwn)
  • Fietnameg (5 miliwn)
  • Cymraeg (575,000)
  • Xhosa (7 miliwn)

Sylwch fod Galisieg, Estoneg, Indoneseg, Macedoneg, Nepali, Slovak, Fietnameg, Thai, a Xhosa wedi'u cynnal am y tro cyntaf yn GNOME 2.12, diolch i waith caled eu cyfieithwr. Gwerth nodi hefyd fod Saesneg Prydain a Saesneg Canada hefyd wedi eu cynnal.

Mae nifer fawr yn fwy o ieithoedd wedi'u rhannol gynnal, gyda mwy na hanner eu llinynnau wedi'u cyfieithu.

5. Gosod GNOME 2.12

Mae CD byw ar gael ar gyfer GNOME 2.12, fan hyn: gnome.org/projects/livecd/. Mae'r CD byw yn gadael i chi brofi penbwrdd GNOME llawn ar eich cyfrifiadur, heb orfod gosod dim ar eich disg caled. Dyma'r ffordd orau i chi weld yr hyn sy'n newydd.

Ar gyfer defnydd bob dydd, rydym yn argymell eich bod yn gosod pecynnau swyddogol, fel y rhai ar gyfer eich dosbarthiad Linux. Mae dosbarthwyr yn debygol o becynnu GNOME 2.12 yn gymharol gyflym, a rhyddhau fersiynau yn fuan fydd yn cynnwys GNOME 2.12.

Os ydych chi'n ddewr ac amyneddgar, hwyrach yr hoffech chi adeiladu GNOME o'r ffynhonnell graidd, er mwyn profi'r fersiynau mwyaf diweddar a chyfrannu adborth a gwelliannau. Os felly, argymhellwn arf adeiladu fel GARNOME, os ydych chi am adeiladu o'r tar-beli sydd wedi eu rhyddhau, neu jhbuild, os am adeiladu o CVS.

6. Namau y Gwyddom Amdanynt

Mae pob darn o feddalwedd, wrth ei ryddhau, yn cynnwys namau y gŵyr y datblygwyr amdanynt, ond eu bônt wedi dewis, am amryw o resymau, peidio â'u datrys cyn rhyddhau. Dyw meddalwedd rhydd ddim yn wahanol i feddalwedd perchnogol yn hyn o beth - ond gyda meddalwedd rhydd, caiff ddefnyddwyr wybod yn union beth yw'r namau.

Rydym hefyd yn annog ein defnyddwyr i roi gwybod am namau, fel y gellir eu trwsio. Y ffordd orau i wneud hyn yn GNOME yw defnyddio'r Canllaw Namau Syml. Bydd hwn yn eich arwain drwy'r broses o gyflwyno adroddiad o safon am nam, ac yn sicrhau y caiff ei dagio'n briodol. Os ydych chi uwchlaw unrhyw beth a elwir yn 'syml', mae gennym hefyd y ffurflen namau draddodiadol. Gallwch weld mwy o fanylion ynghylch y namau sydd eisoes wedi eu hadrodd yn Bugzilla. Dyma rai o namau mwyaf amlwg GNOME 2.12:

6.1. Namau y gwyddom amdanynt

  • Mae'r weithred 'agor terfynell' wedi ei dynnu o ddewislen clic-dde Nautilus, i wella rheolaeth a defnyddioldeb. Os yw'n chwith ar ei ôl, awgrymwn i chi osod ategyn open-terminal Nautilus, sydd nid yn unig yn adfer 'agor terfynell' ar y ddewislen, ond yn ei wella drwy agor y derfynell yn y blygell yr ydych chi'n ei phori.

7. GNOME 2.14 ac Ymhellach

Mae GNOME yn gweithredu ar amserlen o ryddhau ar adegau penodol, er mwyn dod yn rheolaidd â'r gorau o ymdrechion y datblygwyr at ddefnyddwyr cyn gynted â phosib. Mae datblygwyr GNOME yn cynllunio'r nodweddion canlynol, all ymddangos o fewn yr ychydig fersiynau nesaf:

8. Dod yn Rhan o GNOME

Craidd llwyddiant GNOME yw ei holl wirfoddolwyr, yn ddefnyddwyr ac yn ddatblygwyr.

Fel defnyddiwr, gall eich cyfraniad fod mor syml ag adrodd namau'n dda. Gallwch adrodd namau yn ein system Bugzilla gan ddefnyddio'r canllaw namau syml. Os am gyfrannu mwy, ymunwch â'n sgwad namau gweithgar.

Os am ddatblygu GNOME, cewch brofi cyffro un o'n grwpiau datblygu bywiog - Hygyrchedd, Dogfennaeth, Defnyddioldeb, Cyfieithu, Gwe, Profi, Graffeg, a Datblygiad Platfform & Phenbwrdd. Dyma ganllaw i'ch rhoi chi ar ben y ffordd.

Mae bod yn rhan o dîm GNOME yn brofiad eithriadol, ac fe fyddwch yn cwrdd â llu o bobl weithgar, medrus a chymwynasgar, sydd i gyd yn gweithio tuag at gyrraedd un nod. Os am fod yn rhan o'r cyffro, ymunwch â ni nawr.

1. Diolchiadau

Murray Cumming, Davyd Madeley, a chymuned GNOME ddaeth â'r nodiadau yma at ei gilydd.